Deffro yng Ngwlad Pwyl bore ‘ma, ar ol cysgu ar drên am y tro cyntaf!
Tra bod ambell un yn mwynhau teimlo’r trên yn ein suo i gysgu, roedd swn chwyrnu yn cadw eraill yn effro! Ac roedd pawb yn teimlo effaith y bagiau trwm ar ein hysgwyddau. Roedd y trên wedi dechrau dod yn gyfarwyddd, a theimlo’n gyffyrddus, gartrefol a glan.
Y munud wyt ti’n cyrraedd Gwlad Pwyl, mae’n amlwg dy fod dramor a bod ‘na rhywbeth (dim yn siwr iawn beth yn union) sy’n gwbl wahanol am y lle.
Roedd ffermydd, coed bedw ac awyr mawr (mae gogledd Gwlad Pwyl yn lle gwastad) yn gwibio heibio… Mae’r ychydig trefi’n edrych fel llefydd digon hamddenol a lliwgar, a phob hyn a hyn daw ffatrioedd ddiwydiannol mawr. Fflatiau yw’r rhan fwyaf o gartrefi, gydag ardaloedd cymunedol y tu allan.
Cyrraedd gorsaf ganolog Warsaw, a chael arogl cryf yn groeso – cymysgedd o fwg sigarets, piso, a mwg y trenau. Diolch i’r drefn fod rhywle i adael y bagiau yn yr orsaf, ac amser i fynd am dro yn Warsaw cyn dal y ddolen nesaf y daith.
Wrth gerdded o’r orsaf tua’r Hen Dref, mae’r adeiladau’n mynd yn harddach fesul cam. Mae’r adeiladau cain yn edrych yn gadarn ac yn lan – rhyfedd meddwl fod y cwbl wedi ei ail-godi o’r rwbel cwta 60 mlynedd yn ol. Trueni nad oes fwy o amser i fwydo’n chwylfrydedd…
Yn ol i’r orsaf a’i haroglau amhleserus, er mwyn dal y trên i Foscow drwy ddwyrain Gwlad Pwyl a Belarws. Y peth cyntaf daeth i’r meddwl ar ol gweld y trên oedd: diolch byth mai dim ond un noson bydden ni’n treulio yma!
At the border between Poland and Belarus they bark us back into our cabin; we obey and in come 2 sets of passport control. The guards don’t smile and don’t give anything away when they stare you in the face to check your ID.
Digon ffiaidd oedd croesi’r ffin i Felarus hefyd, a gorfod dangos pob pasbort ddwywaith. Ond diddorol iawn oedd aros ar y trên mewn warws anferth wrth iddyn nhw ei godi oddi ar y cledrau, a newid yr olwynion i rhai Rwsieg – mae trenau Gorllewin Ewrop ychydig fodfeddi’n rhy gul! Daeth pobl leol i’r warws a gwerthu bwydydd (gan gynnwys mafon blasus tu hwnt) trwy ffenestri’r trên.
Nwdls, saws miso, salad a mafon i swper, a ninnau wedi gloi yn y trên!
Moscow… dyma ni’n dod!

6 comments
gwenlli says:
August 31, 2011 at 4:40 am (UTC -5)
Hello travellers! Sounds like your adventure is already underway
Gethin and I watched a Iolo Williams documentary about lake Baikal today – he is very impressed that you’re going to ‘zoom’ past it on a train in a few days.
Kyle – hope you didn’t buy the hat!! There will be loads more to be tempted by along the way, I’m sure.
Look forward to the next instalment
Gwenlli x
Nathan says:
August 31, 2011 at 4:53 am (UTC -5)
Wow, it sounds amazing, i wish i was there. What an adventure! More pictures please, maybe of the scary Russian beauty, ha ha. Moscow should be fantastic and i understand you have a bit more time there. Anyway, safe journey, look after each other.
love
Nathan
Lily says:
August 31, 2011 at 3:26 pm (UTC -5)
Hi Rosa.Sounds great.Mums researching Seat 61 for next adventure she says shes not staying home next year!We miss you.Dead proud.Good luck ya,all.xxxxLily
janet says:
August 31, 2011 at 5:48 pm (UTC -5)
please can person writing add name at end…..ta. yes, lots more photos please or is it difficult to get inyernet maybe…. happy times x
Theresa says:
September 2, 2011 at 1:02 pm (UTC -5)
Following your blog and hoping you’re all enjoying every minute of such a fantastic experience….keep the photos coming.
Best wishes Theresa
Cadan ap Tomos says:
September 4, 2011 at 7:16 am (UTC -5)
Hi Janet,
The author of the blog post will appear at the top-right corner from now on.