«

»

Sep
06

Cyrraedd Ulaan Baatar

Heddiw nathon ni gyrraedd Ulaan Baatar am hanner awr ‘di chwech yn y bore. Roedd Chimgee yn disgwyl yn y gorsaf, gyda tacsi a cheir i mynd â ni i’r hostel.  Ar ôl cael brewcast yn y hostel, aethom i’r stafell, a dad-bacio cyn mynd i’r parc a’r siopau cyfagos. Cyn cwrdd â Chimgee am ginio, aeth pawb i gael cawod a checio Gweplyfr am y tro gynta mewn 8 diwrnod! Am ginio aethom i’r archfarchnad a phrynnu picnic, cyn mynd i’r parc . Yn y parc roedd plant lleol yn sglefrfyrddio, ond roedd un y sefyll allanyn hynod talentog, ac yn siarad Saesneg da. Ei enw oedd Batbayar (Bill i bobl sy’ ddim yn dda efo enwau), ac roedd o wedi byw yn Virginia am y 15 mlynadd diwethaf cyn colli ei deitheb pythefnos yn ôl. Roedd Bill yn sôn am y sefyllfa ofnadwy yr oedd wedi ffeindio wrth ddod yn ôl i Fongolia. Roedd pawb yn feddw o unarddeg yn y bore, ac yn dwyn ac ymosod ar merched o hyd. Roedd o’n gweld anifeiliad yn cael eu bwrw i lawr am hwyl, a gweld yr holl dloti o’i amgylch. Roedd o’n ysu i wneud rhywbeth i gael y plant ifanc oddi ar y cyfrifiaduron a alcohol, ac allan ar fwrdd sglefrio. Ar ôl mynd ‘nôl i’r hostel, penderfynodd Sannan a minnau i mynd i gyfweld â fe, a chyrhaeddon ni’r parc fel oedd Bill ar fin mynd i fan sglefrfyrddio arall, lle cawsom ein gorfodi gan hen ddyn i yfed airag, llefrith ceffyl wedi ei eplesu, oedd yn blasu fel finegr, iwrin, llefrith sur a lemonau. Dywedodd Bill ‘If someone older offers you airag you have to drink it’. Ar ôl hynny aethom i gaffi i ymweld â ef, lle cawsom wybod mai Mongolia oedd yr unig wlad yn Asia heb parc sglefrfyrddio, er gwaetha Rwsia yn adeiladu un yn yr 80au, a chwmni sglefrfyrddio yn adeiladu un hefyd. Cafodd y pren ei losgi, ar gweddill ei werthu. Dwedodd bod 25 o sglefrfyrddwyr yn holl Mongolia, a dimond tua 10 oedd gan fwrdd iawn. Roedd Bill yn dweud bod o isio dechrau siop sglefrfyrddio yn y ddinas, ond roedd am bod yn taith hir ac anodd. Roedd ei angerdd yn anodd anwybyddu, ac roeddem yn teimlo fysa’n dda ei helpu, ac ar ôl cyfnewid cyfeiriadau e-bost, rydym yn gobeithio cael ychydig o’i fideos i’w postio yn fuan, ac ella ei gwrdd eto! 

1 comment

  1. janet says:

    he wont get much trade then with only 25 skateboarders in mongolia!!

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>