Gan taw dim ond yr ail ddydd allan o’r gwely oedd hi i fi heddiw, wedi dod dros fy salwch undydd, ro’n i’n frwd i barhau a’r gwaith a pen clir. Ar ol dechre cynnar (iawn), aethon ni i gwrdd ag aelod o blaid Werdd Mongolia. Roedd hi’n ddiddorol cymharu’r wleidyddiaeth werdd rhwng gatre a Mongolia, lle mae Caroline Lucas et al wedi bod yn canolbwyntio ar y polisiau gwyrdd a dim ond yn y blynyddoedd diwethaf wir yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol i ennill seddi, mae gan y blaid fan hyn y llywodraeth presennol yn darged. Mae’n ddigon teg gan taw dim ond ryw 20 mlynedd allan o gomiwnyddiaeth mae’r wlad, lle mae llygredd a diffyg atebolrwydd. Yn yr un cyfarfod gyrhaeddodd cynghorydd amgylcheddol i’r arlywydd yn hwyr (hwyrach na ni, sy’n anodd credu). Wnaeth hyn hefyd daflu lot o olau ar botensial Mongolia i ddefnyddio egni adnewyddadwy megis gwynt a solar, yn ogystal a mwy o wybodaeth ar sut mae’r wlad yn elwa o’i ffynhonellau egni presennol.
Ar ol cyfarfod eitha trwm, da oedd cerdded mas ac anadlu’r aer oer (er braidd yn lygredig!). Y peth pwysig nesaf i wneud oedd i oedd prynu lot o losin Mongolaidd o’r ganolfan siopa rownd y bloc i lygru’n nannedd! Rywsut, lwyddodd Sannan ddal ei fag rhwng yr escalator a’r llawr nesaf! Roedd gweld rhywun yn gorwedd ar risiau yn panicio, tra’n ceisio cerdded yn rhywbeth hilarius ac ofnus ar yr un pryd! Gwerth ei weld! Ar ol yr ordeal yno, aethon ni i brynu ein stwff. Tra’n ceisio cerdded allan o’r siop efo losin gwerth miloedd o Togrog (arian Mongoliaidd), cafon ni (Twm, Tal a Sannan) ein stopio gan y dynion diogelwch o dan yr argraff ein bod ni wedi dwyn pethau ein hunain! Ie… bizarre…
I orffen y dydd, aeth y grwp i gyd i’r Loving Hut eto i gyflwyno ein gweithdy ryff i’r grwp Green Bell a cyd weithio gyda nhw er mwyn gwneud yr agwedd newid hinsawdd yn Mongolia tamaid bach yn fwy cywir!
Mae cwsg yn beth da!
