«

»

Sep
15

Gweithio ar y Gweithdy

Ia, gwn i does dim digon wedi ymddangos ar y blog yr wythnos yma. Ond nid diogi oedden ni, coeliwch fi!
Rydan ni wedi bod yn brysur iawn efo gweithdai i fyfyrwyr a phlant ysgol yn ardal UB, heb so^n am fynd ar daith hir i brofi bywyd y bugeiliaid crwydrol yng nghefn gwlad.

Aeth dipyn o’n wythnos gyntaf yma wrth baratoi gweithdy ynglŷn â newid hinsawdd ar gyfer grwpiau 16-18 oed. Rhwng yr 11 ohonom a Chimgee, ein tywysydd fyddlon, llwyddon ni greu gweithdy oedd yn taro deuddeg, gan gynnwys sgets fer sy’n egluro’r berthynas rhwng llosgi tanwydd ffosil a’r effaith “tŷ gwydr”, Rosie’n cogio bod yn fam ddaear ac Ant yn cogio bod yn goeden, lluniau hardd o Gymru, gemau lu, a chyfle i grwpiau drafod. I’r ysgol â ni!

Wedi herio traffig drwg-enwog UB mewn tacsis orlawn ar hyd lonydd llawn tyllau a cherrig, cyrhaeddon ni munudau’n unig cyn i’r gloch ganu! Herciodd Isabel (oedd yn dal i ddioddef ar o^l troi ei ffe^r ar y diwrnod cyntaf) gyda thaflynydd dan un fraich a hetiau dan y llall.

Hyn â chyrn y ceir – sŵn nodweddiadol y ddinas hon, mae’n ymddangos – yn dal i ganu yn ein clustiau.

Rhuthro i’r ystafell, a gosod yr offer yn barod, eiliadau cyn i’r llifddorau agor. Dyma tua 50 o blant yn llifo i’r ystafell, ie, plant, a’r rheini’n edrych tua 8 oed. Wedi deall, mae plant Mongolia yn edrych yn ifanc i’n llygaid ni, a thua 11 yw oedran y rhan fwyaf, ond nid dyma’r myfyrwyr 16-18 oed y cynllunwyd amdanynt.

Doedd dim amdani ond ychwanegu rhagor o gemau i’r cynllun, gwneud yn siwr eu bod yn gallu trafod yn eu hiaith ei hun a gwneud yn siwr bod digon o luniau lliwgar. At ei gilydd, doedd o ddim yn weithdy sa^l, o ystyried ei fod yn ymgais cyntaf, ond roedd lle i wella yn sicr. Ond wedi cael amser i drafod a chywreinio, roedd y gweithdy’n werth ei weld erbyn yr ail wythnos.

Un o’r uchafbwyntiau oedd yr ail weithdy, gyda disgyblion 16-18 oed (go-iawn y tro hwn). Roedd eu hymateb i’r cwestiynau trafod yn ysbrydolaeth i ni i gyd.

O ddydd Iau ymlaen, roedd 2 weithdy i’w cyflwyno bob dydd, gan ruthro o un ysgol i’r llall, gan addasu i ba bynnag gynulleidfa roedd yr ysgolion yn rhoi o’n blaen. Ond y gweithdy gorau un oedd yr un annisgwyl ar ôl taith hir i dalaith Bulgan. Wedi 9 awr ar fws mini, roedden ni’n lwch a chwys i gyd.

Y cynllun oedd cyfarfod â llond bws o ddisgyblion 16 oed mewn ysgol wledig nepell o le’r roeddem am aros mewn ger (cartref traddodiadol y bugeiliaid crwydrol), a hynny 4 awr cyn i ni gyrraedd mewn gwirionedd. Yn hytrach, er ei bod hi’n brynhawn Sadwrn, roedd tua 70 o blant ysgol tua 10 oed yn disgwyl i’n cwrdd, a chyflwynwyd y gweithdy nid mewn ysgol, ond ar dir agored rhwng afon a choedwig.

Roedd y plant yn annywl iawn – hogia cŵl, plant bugeiliaid, merched efo’u gwallt yn plethiadau destlus, merch ifanc yn casglu blodau o’r goedwig ar ein cyfer, bachgen bach (prin allan o’i glytiau) oedd yn ddigon di-gywilydd, a grwp o athrawon oedd wedi dod a digon o fwyd i bawb. Penderfynnom ni canolbwyntio ar y gemau a’r sgets ddigri, gan feddwl y byddai trafod sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd ym Mongolia dipyn yn rhy anodd i’r criw yma.

Ond roedd ein hargraff cyntaf ymhell ohoni.

Heb cymorth, aeth y plant ati i ymateb i’n perfformiad ni gyda’u perfformaidau eu hunain. Roedden nhw’n barod i ddysgu, a’u meddyliau mor agored a’u wynebau llydan.
Llwyddon nhw ddynwared ceffyl a chert, afonydd, cartrefi, tanau a gwartheg, a dangos dealltwriaeth astrus o’r effaith mae newid hinsawdd yn cael ar eu bywydau eisoes, a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn peidio a chyfrannu mwy i’r broblem.

Ac i goroni’r cwbl, wedi cymryd lluniau o’r grwp, dechreuon nhw ganu. Roedd un o’r rhai fwy hyderus yn codi’r dôn, a’r gweddill yn ymuno pob un, ac yn creu awyrgylch hudol a Mongoleg iawn. Yna dechreuodd yr hogiau cŵl rapio, ac roedd un ferch ifanc digon dewr i adrodd cerdd a ysgrifennodd am yr amgylchedd. Roedd fel petai hi’n crynhoi popeth oedd wedi ei ddweud a pham fod gweithredu i atal newid hinsawdd mor bwysig. Roedd rhythm ei geiriau dwys yn ein taro cyn clywed y cyfieithiad hyd yn oed.

Wrth i’r haul bylu yn y Gorllewin, cododd cwrlid o niwl ar hyd waelod y dyffryn, roedden ni’n rhanu bwyd a cha^n a hwyl gyda phobl bach anhygoel, a ninnau 6,000 o filltiroedd o gartref.

Ar adeg fel hyn mae rhywun yn cofio pam bod angen teithio, a pham bod angen yngyrchu.

 

 

 

 

 



1 comment

  1. Carys says:

    Beautifully written Isabel x

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>