Efo’r gweithdy yn ysgol 62 wedi ei ganslo, aethom ni am dro mewn bws mini i weld rhai o’r rhyfeddodau sydd gan UB i’w gynnig. Efo Mongolia yn weriniaeth ers y ’20au, ac yn weriniaeth ddemocrataidd ers 1991, amgueddfa ydy Palas Bogd Khan erbyn hyn. Brenin olaf y wlad oedd Bogd Khan. Roedd dau rhan i’r palas – y brif rhan, Tsieinïeg yr olwg, a Phalas y Gaeaf, adeilad llawer mwy Ewropeaidd ac iddo wres canolog – peth da lle mae’r tymheredd yn y gaeaf ymhell bell dan y rhewbwynt.
Un o’r pethau cyntaf mae rhywun yn ei weld yn y palas yw craig mawr sy’n edrych fel carreg bedd i ddechrau. Ond nid carreg bedd mo hwn, ond sêl swyddogol oedd yn rhaid i bob palas ym Mongolia ei gael. Mae ‘na ysgrifen arno mewn sawl iaith gwahanol, sy’n adlewyrchu dylanwad Tsieina a Bwdhaeth ar y wlad. Wedyn, rhaid mynd trwy’r ddau fynedfa fawr pren. Roedd tri drws ymhob un – dim ond y Khan a griw dethol oedd yn cael mynd trwy’r drysau anferth, canolig. Roedd rhaid i weision y Khan (a ninnau!) fynd trwy’r drysau llai ar y naill ochr a’r llall.
Tu fewn i furiau’r palas roedd trwi chwrt tebyg iawn i’w gilydd. Roedd yr ystafelloedd – lle’r oedd y teulu brenhinol yn arfer myfyrio a chreu celf – yn amgueddfa oedd yn dal enghreifftiau o’u gwaith: brodwaith o’r Bwda a chymeriadau crefyddol eraill, cerfluniau ac ati.
Tu fewn i balas y gaeaf wedyn, roedd arddangosfeydd digon annisgwyl – gan gynnwys llu o anifeiliaid wedi eu stwffio!
Wedi gadael y palas, yn ôl ar y bws, er mwyn mynd i weld mynydd Zaisan. Dim yn lawer o fynydd i’w gerdded mewn gwirionedd, gan fod y bws yn mynd â ni ar hyd lôn droelliog i fyny i droed grisiau mawr. Wedi dringo tua 100 o risiau, cyrraedd y copa – cerflun i goffau’r milwyr bu farw yn brwydro yn erbyn ffasgiaeth yn yr ail rhyfel byd. Mae o hefyd yn gyrchfan poblogaidd i blant UB cadw oed. Mae ‘na olygfa anhygoel o’r mynydd, gyda UB cyfan i’w weld bron iawn.
Mae’r ddinas yn gorwedd mewn dyffryn hir, hir ar hyd lannau’r afon Selenga. Mae’r ardal ganolog, lle mae’r hostel sy’n gartref ini am y bythefnos, yn frith o dyrrau cyfalafol y ’90 ac adeiladau cyhoeddus crand a fflatiau llwm y cyfnod comiwnyddol. Mae’r cyrion yn fwy o gymysgedd, ffatrioedd a’r orsaf bwer yn tasgu mwg i’r awyr las, swn a llanast adeiladu cannoedd o adeiladu newydd, gydag ardaloedd y ger yn ymestyn i fyny’r llethrau ar bob ochr. Yng nghefn gwlad, mae’r pabell sy’n gartref i’r bugeiliaid crwydrol yn rhan annatod o fywyd traddodiadol sy’n agos iawn at natur, ond wedi i lawer o bobl gorfod ffoi o gefn gwlad i’r ddinas yn y flynyddoedd diweddar, mae’r rhain yn ardaloedd o dloti ac o lygredd hefyd (gan mai glo yw’r unig danwydd sydd ar gael iddynt yn y gaeafau rhynllyd).
2 comments
janet says:
October 6, 2011 at 5:23 am (UTC -5)
I loved reading this – who wrote it please? janet
Robin says:
October 6, 2011 at 6:01 am (UTC -5)
thanks Janet, Anthony wrote this. I wrote the welsh version though. Hope to add a few pictures of this stuff soon so watch this space