«

»

Sep
20

Gers Taliesin!

Ar y dydd Mercher ola yn UB aethym i aros mewn Gers am yr ail waith ar y trip. Troma, yn lle o aros mewn Ger efo’r teulu, roedd ganddom dau ger i’n hunan, oedd yn meddwl nid oeddem goro yfed llefrith di eplesu a buta caws anhygoel o od. Roedd hyn yn dangos pwyntiau da amlwg, ond nid oedd yn profiad cystal a aros efor teulu. Y noson hono aeth fi, Rosie a Softe i godro gwartheg (well nath Rosie a Softe godro nhw a nesi trio) cyn mynd i chwara gemau cardia yn y Ger.     Dangosodd y Jagger, Softe a Ganzo gem cardiau traddodiodol, oedd yn cyngwys ‘Forfits’ Dechreuodd efo Robin yn rhedeg o amgylch ger heb ei grys-t a pobl yn chwara efo scarff o amgylch ei llygaid, wedyn i swopio crysau-t, eitedd ar pobl am rownd, chwara rownd yn dy drons ac yna redeg o amgylch y dau ger mewn ffigwr o 8 mewn trons ‘union jack’ gan ‘playboy’, ac yr ola, Twm yn imprfeiddio can serch i Jagger!

Bore tranoeth, aethom i cael brecwast hyfryd o mwsli a llefrith UHT wedi suro, ac yna roedd hi’n amser dechra ar y thri camp. Roedd hi’n diwrnod dathlu y thri camp yn Mongolia y diwrnod hwnw, fellu daeth y bwa saeth allan, am y camp gynta. Doedd neb yn wych, ond oni’n pell iawn ohoni. Yr ail camp dewisiom oedd wrestlo mongolaidd. Fi yn erbyn Ganzo oedd y gem gyntaf, ac er gwaethaf y faith fod o’n dallt y wrestlo, curais o wrth defnyddio fy mhwysa a phwer i fy mantais.

Marchogaeth oedd y trydydd camp, a aeth y grwp gynta i’r pellter. Wel, pawb arwahan i robin, oedd wedi cael y ceffyl diog. Efo Ganzo yn fod yn march profiadol, aeth ef ar y ceffyl ddiog yn yr ail grwp, ac cafodd y ceffyl i symyd yn eitha cyflym. Fi cafodd y ceffyl diog yn y trydydd grwp, ond penderfynais i’w wneud i fynd y cyflym. Gweiddais a ciciais a hydynoed gwneud chwip allan o frigau, ac yn y diwedd aeth y ceffyl fel y gwynt! Cymherodd mwy o ymdrech na rhedeg i lle onisio mynd, ond roedd hi’n llawer mwy hwyl, a gesi fy nghymerydwyo gan y ddynes ceffylau wrth cyraedd nol, gan imi cael y ceffyl ddiog i bron ddim bod yn diog am hanner awr cyfan!

Ar ol cinio roedd hi’n amser mynd nol i’r ddinas, ac efo pawb wedi gwasgu yn cefn y bws roedd streuon a atgoffion yn llenwi’r aer wrth i pawb clebbar am un or profiadau gora mae’n posib ei gael. Roedd hi’n trip wych, ac mai’n siwr nai ei chofio am byth! Y Diwedd.

 

 

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>