Roedd tawelwch wrth gyrraedd yr orsaf tren, ac er gwaethaf y ffaith fod pawb yn cyffro mynd adra, doedd neb isio ffarwelio’r chriw o Greenbell. Roeddym wedi dod mor agos iddynt dros y pythefnos diwethaf. Pan cyrhaeddodd y tren, penderfynom mynd i ffeindio ein ystafelloedd, a gollwng ein bagiau yna, cyn mynd yn ol i’r platfform am ychydig ac I ddweud ffarwel. Heb sylwi, roeddem wedi gwneud cangymeriad mawr! Roedd yna chriw anferthol o Mongoliad yn doda cannoedd o focsys a bagiau enfawr ar i’r tren. Roedd hi bron yn amhosib dianc o’r tren, ond gwthiem ein ffordd trwadd o’r diwedd. Roedd dweud tra I’r pobl oeddem wedi dod I nabod mor da dros y pythefnos diwethaf yn anodd. Roeddynt yn nabod ni yn gwell na llawer o’n ffrindiau, roedd nhw wedi weld ni dan pwysau uffernol, wedi blino, wedi meddwi (rhai mwy nag eraill), dan amgylchiadau anodd, ac hydynoed wedi weld rhai aelodau or grwp (wel 1 be bynag)yn rhedeg o amgylch dau ger mewn tymheredd o -3/4 mewn trons ‘union jack’!
Cyn bo hir roedd raid rhoi y hygiau ola, cyn dringo ir tren a chwifio trwyr ffenestr, wrth gwylio ein ffrindiau yn diflanu ir pellter. Dyna pryd ddeuthym yn ymwybodol o dau fag enfawr yn ein ystafell, ond 5 munud wedyn roeddent wedi mynd.Ar ol ychydig, daeth yn clir fod Sannan, Anna a Twm yn rhannu ystafell efo meddwyn. Doedd hi ddim yn rhy hir cyn ini sylwi fod y meddwyn yn un or chriw mawr, ac I fod yn onest doedd hi ddim un hir cyn iddym sylwi bod y holl tren yn rhan or chriw yma!
Roedd yna dau fos amlwg, y prif smyglwr, boi tew yn trefnu popeth ac yn siarad ar ei ffon, a y fos mawr, dyn ofrosgol yn eistedd ar y tren yn gwneud dim, yn gwylio pawb yn gweithio iddo. Unwaith symydodd y tren, dechreuodd y smyglwyr cerdded I fynnu a lawr y tren yn ffeindio llefydd I cyddio nwyddau cyn cyrraedd y ffin y noson hono. doedd hi ddim yn hir cyn I ystafell Twm, Sannan a Anna fod yn llawn, ac roedd hin dechrau dod yn amlwg fod pawb yn cymeryd mantais o’r hen feddwyn.
Dechreuodd y meddwyn fod yn poen tin go iawn, a gyda Anna yn gwylltio, Kirsti yn rhedeg allan o distractions, a neb arall yn yr ystafell, penderfynais cymeryd y mater I fy nwylo fy hyn. Meddyliais am y syniad am amser hir. Pros and cons? Syniad da? Yn y diwedd penderfynais i’w wneud beth bynnag, fellu dwedais mewn llais araf a chlir ‘Now it’s time for silence so we can meditate’ Doedd o’m i’w weld yn dallt, fellu croesais fy ngoesau, a cau fy llygaid, a cyn hir dechreuodd Anna a Kirsti neud yr un peth, cyn iddo cal y syniad a dechrau bod yn distaw. Ar ol pum munud dechreuodd y meddwyn siarad eto, ac roedd o’n gorfod cael ei atgoffa pob hyn a hyn I fod yn distaw. Aeth hyn ymlaen am amser go lew, cyn Iddo dechrau hymian a tuchan wrth rhoi ei dwylo fel tasa’n gweddio,m cyn dechrau gweiddi arnaf a cau ei dyrnau yn fy wyneb. Diolch i’r drefn daeth un o chriw y tren i’w deutha I fynd i’w welu, cyn iddo sylwi ni all cysgu a gwelu o feltiau. Ar ol chydig o strach, daeth y fos a chyddio nhw dros yr ystafell a’i gwthio i’r gwelu.
Pan esi nol I fy stafell ar gyfer y ffin, cefais clywed y hanes or llawr yn cael ei chdi, ac bocsys mawr yn cael ei gostwng iddynt, yn ogystal a gweld pobl yn stwffio bagiau a bocsys ir to, cyn rhoi y to nol yn ei le. Roedd pawb, yn cynnwys chriw y tren yn cyddio nwyddau ymhobman, mewn frys anferth, a roddodd pawb popeth ni ellynt cyddio i’r meddwyn.
Ar ol i’r fyddin a heddlu Mongoliaid gwirio fy mhasport a visas, gwlais y meddwyn yn cal ei taflyd oddi ar y tren gyda bagiau a bocsys llawn o ddillad anghyfreithlon, ond ofewn 5 munud roedd merch ifanc yn yr ystafell yn ei lle, a hi hefyd efo llawer o nwyddau I mynda trwy y ffin rwsieg. Pan ddaeth y heddlu rwsieg ymlaen, chwilion nhw ei fag, edrych ar y nwyddau, a cherdded I ffwr yn ei anwybyddu. Wedyn daeth cwpwl o genod yn llusgo troliau anferth o nwyddau ar i’r tren, pan oeddem dal mewn golwg y ffin rwsieg.
Tra yn disgwyl cael ein passportiaid nol, dechreuodd fi a twm cannu Oes Gafr Eto, cyn i’r heddlu a fyddin rwsieg, y smyglwyr a chriw’r tren casglu o amgylch ein cabin, a dechra gweiddi ‘SILENCE! SHUT UP! NO MUSIC!’ Hwyl!
Bore tranoeth roedd y hogan wedi mynd, a gadawodd llawer mwy yn ystod y dydd, tra yr oedd y gweddill yn gwerthu pethau ar pob orsaf, ac yn neidio ar y tren fel yr oedd yn dechrau tynnu or gorsaf. Roedd hennerau o manicins i’w weld pobman ar hyd y tren yn modelu dillad. Roedd bagiau anferthol llawn dillad a beltiau a sgidiau pobman, a doedd neb i’w weld yn poeni.
Wrth meddwl am y peth, roedd bron pawb ar y tren ar wahan i’n chriw ni , ar gwas yn y caffi (a oedd yn casau nhw ac yn gweiddi arnynt ohyd) yn rhan o’r cynllwyn, pe baent wedi cael ei talu neu gorfodi I chymeryd rhan, pe baent yn smyglwyr, heddlu, yn y fyddin neu chriw y tren. Gwnaeth hynnu I mi meddwl, be wnaeth y meddwyn oi le? Gwrthod talu? Rhy dlawd I talu? Amhoblogaidd? Dweud rhywbeth yn angywir? Neu just anlwcus? Byddai byth yn sicir o hyn, ond byddaf yn sicir I cofio’r hen meddwyn bach ai strach am weddill fy mywyd.
1 comment
Tina and Max says:
October 15, 2011 at 2:51 am (UTC -5)
We can’t stop smiling about your story and the common moments on board of this train. It was more like a mobile flee market after the russian border crossing.
It seems you are doing well and made it home after the journey through Belarus!
We keep our fingers crossed for the rugy world cup semi final!!
Best regards from mainlaind Europe
Tina and Max