«

»

Jan
09

Beth sydd ar y gweill o ran Datblygu Cynaladwy yn Llywodraeth Cymru? Isabel sy’n ymchwilio…

Crynodeb Gymraeg yw hon o’r erthygl wreiddiol gan Isabel.

Go brin fod treulio 3 awr mewn suite yn Stadiwm y Mileniwm yn brofiad cyffrous ynddo’i hun: mae’r brechdanau braidd yn afiach, ac mae rhywun yn teimlo’i fod ar ganol warws diwydiannol. Ond, petai ti’n cael dy hun yno er mwyn cymryd rhan mewn ymgynghoriad gyda Llywodraeth Cymru ar eu Mesur Datblygu Cynaliadwy newydd, mae’n bosib y byddet ti’n cyffro cymaint â wnes i! erbyn gadael.

Ie, dim ond am Gymru dwi’n sôn heddiw. Ac ie, am Lywodraeth Cymru dwi’n sôn.

OND mae hyn yn berthnasol i bob un ohonom sydd â diddordeb mewn materion Datblygu Cynaladwy ymhob rhan o’r byd

oherwydd bod cael enghraifft byw o Lywodraeth yn ymgysylltu ac yn ymgynghori ar faterion cynaladwyedd yn amrhisiadwy wrth lobïo llywodraethau eraill i gwrdd â’r her a gwneud yr un peth.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd(!) sydd efo ymrwymiad cyfansoddiadol i Ddatblygu Cynaliadwy. Er i mi amau ar y dechrau oedd y Llywodraeth yn cymryd y peth o ddifrif, mae’n rhaid i mi ddweud bod Cymru’n un: Cenedl un blaned, eu dogfen strategol ar y pwnc, yn cynnwys nifer o gamau sylweddol yn y cyfeiriad cywir, gyda thargedau uchelgeisiol mewn meysydd fel tai a gwastraff.

Beth yw diben creu dyletswydd i Ddatblygu’n Gynaladwy?

Cwestiwn da! Ac yn y bôn, dyna’r oedd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni heddiw: beth yw ein diffiniad o Ddatblygu Cynaladwy, a beth yw ein syniada am gynnwys ac amcan y deddfwriaeth newydd, a sut dylid ei weithredu.

Mae papur trafod y llywodraeth yn amlinellu eu dealltwriaeth nhw o Ddatblygu Cynaladwy.

Fel byddet ti’n ei ddisgwyl, roedd yna amrywiaeth o syniadau a diddordebau gwahanol gan y bobl oedd yn y cyfarfod. Ond roedd y rhan fwyaf yn cytuno bod angen i’r sector gyhoeddus a busnesau bod yn atebol os nad ydynt yn cydymffurfio, a bod rhaid i’r ddeddfwriaeth ysgogi i bobl trafod a gweithredu.

Mae Llywdraeth Cymru eisiau atynnu’r math o fusnesau i Gymru sydd eisiau gweithio yma oherwydd bod yna ymrwymiad i Ddatblygu’n Gynaladwy – hoffair Llywodraeth ganolbwyntio ar yr ochr bositif.

Syniad da, ond a fydd hyn yn gweithio? Yr hyn byddwn i’n ei ddweud yw, bydden ni ddim yn gwybod nes rhoi’r peth ar waith. Mae deddfwriaeth amgylcheddol nad yw’n gosod rheolau pendant, ond yn hytrach yn cynnwys egwyddorion cyffredinol yn rhywbeth cymharol newydd: er na allen ni ddarogan faint o effaith bydd yn ei gael, gallwn geisio dysgu o feysydd eraill o leiaf.

Er enghraifft, mae deddf mewn lle yn Bolivia sy’n sicrhau bod hawliau’r Fam Ddaear yn gyfartal â hawliau dynol. Mae hyn yn cydnabod yr ystyron ysbrydol mae’r bobl frodol yn eu priodoli i fwynau ac adnoddau naturiol. Mae disgwyl i’r deddfau hyn atal cynlluniau adeiladu mawr, a chwtogi’r mwyngloddio sydd wedi creu llygredd yn Bolivia. Gall rhoi’r grym i gymunedau dod yn rhan o wneud penderfyniadau a herio’r cwmnïau mawr sy’n weithredol yn Bolivia. Rhywbeth fel hyn, gydag osgo gwahanol arno, byddwn i’n gweld dyletswydd Datblygu Cynaladwy yn gweithio yn y wlad hon.

Rhywun arall ddylai bod yn rhan o weithredu’r dyletswydd i ddatblygu’n gynaladwy yw’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Byddwn i’n tybio bod dyletswydd gyfreithiol all fod yn benodol iawn o ran y rheolau mae’n ei osod, yn ogystal ag ysgogi newid mewn meddylfryd ac ymddygiad cyrff cyhoeddus trwy ymgorffori egwyddorion cadarn, yn arf cryfach nag un comisiynydd. Ond y werth o gael comisiynydd yn ogystal â’r dannedd cyfreithiol yw y byddai’r comisiynydd yn rhydd i sicrhau bod y ddeddf yn cael ei roi ar waith, ac o bosib yn gallu ceisio gorfodi pan bo rhywun neu rywrai yn bradychu cenedlaethau’r dyfodol. Felly mae’n bryd i bobl ifanc Cymru weithredu, a gwneud y gorau o’r boi yma – mae o angen mandad – dewch i ni roi mandad iddo!

//

Beth nesaf? Tu hwnt i’r ymgynghoriad cychwynnol hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â sectorau neilltuol (e.e. coedwigaeth, busnes ac ati), a gobeithio bydd Dyfodol yn gallu sicrhau bod ymgynghoriad ar gyfer pobl ifanc. Er mor hapus yr oeddwn i fy mod yno, byddai’r rhan fwyaf o bobl ifanc wedi teimlo nad yw bod yn berson ifanc, ynddo’i hun, yn ddigon i gynnig. Mae’n anodd dal dy dir pan mae’r ddynes wrth dy ochr yn fos ar elusen fawr, a chyn-Weinidog Amgylchedd Cymru yn dy wynebu o ochr arall y bwrdd. Ond mae’r dyletswydd i ddatblygu’n gynaladwy yn rywbeth sydd er lles cenedlaethau’r dyfodol, a’r genhedlaeth bresennol. Felly mae angen i ni greu syniadau mewn ffyrdd creadigol, a dod i berchen ar y broses yn ein ffordd ein hunain, gan mai ein dyfodol ni yn Nghymru bydd yn cael ei effeithio.

**Tyrd yma eto am ragor o newyddion, ac os oes gen ti ddiddordeb bod yn rhan o’r ymgynghoriadau ieuenctid, gadael neges ar y dudalen yma**

 

1 comment

  1. Daniel Wyn Humphreys says:

    Youthfulness is in the mind – mae rhai yn hen cyn bod yn ugain….ydan ni ddim wedi dysgu bod ‘stereotypes’ yn beth Saesneg ????

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>