«

»

Jun
13

A dyma ni!

Helo pawb!

Dyma ni, glöyn byw  hardd yn cropian o’r cocŵn, ac yn hedfan i’r byd! – neu dyna hoffwn feddwl. Fel weli di, rydan ni’n dal i weithio ar ambell agwedd o’r wefan. Ond yn bwysicaf oll: bydd y Fforwm yn cael ei galw’n Dyfodol nawr!

Mae pawb yn Dyfodol yn cyffro am ddyfodol Dyfodol – cyffro cymaint nes i ni galw ein hunain yn Dyfodol!

Wrth gwrs, mae ystyr dyfnach i hyn yn ogystal. Yn bobl ifanc, rydym yn credu ei fod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd, er mwyn creu dyfodol diogel a chynaladwy, bydd o les i’n plant a phlant ein plant – ac i ni ein hunain. Mae’r hen ethos mor gryf ac erioed dan yr enw newydd. Lle Dyfodol yw sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn dysgu am gynaladwyedd a’r effaith mae’n cael ar eu bywydau; rhoi’r grym iddyn nhw godi llais dros y pethau pwysig; a rhoi cyfle iddyn nhw weithredu a gweld newid er gwell yn eu cymunedau, a thrwy Gymru a thu hwnt.

Mae na bethau cyffrous ar y gweill… Taith Garbon (y bedwaredd!), grŵp newydd yn Wrecsam, 8 o bobl ifanc yn teithio i Mongolia ym mis Medi (Ie’n wir!), a llawer mwy. Os nad wyt ti’n rhan o hyn eisoes, beth amdani? Ymaeloda nawr! Gorau oll, mae’n rhad ac am ddim!

Cadan* x

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>