«

»

Jul
18

Ffordd hawdd o godi arian at Brosiect Mongolia

Rydyn ni i gyd yn gwybod fod arian yn brin ar y funud, a dyw pawb methu fforddio rhoi arian at achosion da (ond i’r rheiny sydd yn medru, rydym dal yn ddiolchgar am eich cyfraniadau – pwyswch yma am fwy o wybodaeth). Dyna pam rydyn ni wedi meddwl am ffordd hawdd i godi arian at Brosiect Mongolia, heb hyd yn oed angen i chi dalu ceiniog o’ch pocedi.

Dyw hi ddim yn gymleth, chwaith. I gyd rydyn ni’n gofyn i chi wneud yw newid eich peiriant chwilio. Yn lle defnyddio Google, Yahoo!, Bing neu rhywbeth tebyg, bydd pob chwiliad a wneir drwy’r ddolen hon yn codi arian at anfon wyth o bobl ifainc i Fongolia yn hwyrach yn y flwyddyn. Cawn rhan o’r incwm o hysbysebion, felly po fwyaf y chwiliadau gwnewch chi, po fwyaf yr arian byddwn yn ennill!

Dewch ymlaen! Gosodwch http://dyfodol.easysearch.org.uk/ yn hafan yn eich porwr we, a dechreuwch chwilio!

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>