«

»

Jul
19

Dychwelyd at Wledd Conwy!

Yn dilyn llwyddiant stondin Dyfodol yng Ngwledd Conwy yn 2010 (mae’r hanes isod), rydym wedi cael ein gwahodd eto eleni – i stondin fwy!

Rydym yn galw ar ein haelodau – newydd a phrofiadol- i ddod yno am ddiwrnod neu ddau o weithgareddau, arddangos ac ysbrydoli’r cyhoedd i feddwl am eu bwyd!

Ble’n well i wneud hynny na Gwledd Conwy? Pob blwyddyn, mae’r wledd yn arddangos a dathlu cynhyrchwyr a gwerthwyr bwyd lleol. Am fwy o wybodaeth am y wledd, cer i www.conwyfeast.co.uk.

Oes gen ti syniadau am sut i rannu’r neges?

Am ddod i’r Wledd gyda Dyfodol?
Cysyllta gyda gwenlli@dyfodol.org i ddweud dy fod am ymuno â ni, neu edrycha am dudalen Dyfodol ar Facebook.

Gwledd Conwy 2010

Diolch i gefnogaeth ariannol y Co-operative, aeth pobl ifanc o Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaladwy (WYFSD)  a Gwerin y Coed i gyflwyno’u syniadau am gynaladwyedd ein bwyd yng Ngwledd Conwy ar y 23ain a 24ain o Hydref 2010. Cawsom leoliad canolog, delfrydol i’n stondin, drws nesaf i’r llwyfan cymunedol, lle cafwyd perfformiadau cerddorol gan nifer o grwpiau a chantorion. Roedd eco-garafan Gwerin y Coed yno, ac yn pweru system sain y llwyfan gyda’i phaneli solar. Hyd yn oed ar ddiwrnod llwyd o Hydref, roedd digon o ynni i gario lleisiau’r perfformwyr ar hyd y maes! Pobl ifanc Gwerin a’r WYFSD fu’n gyfrifol am y paneli solar dros y ddau ddiwrnod, yn sicrhau eu bod yn cael cymaint o oleuni’r haul a phosib.

Cawsom gannoedd o ymwelwyr i’n stondin, a rhoddwyd cipolwg i bawb am ein bwyd a sut gallwn fynd o’i chwmpas hi i newid y modd yr ydym yn ei gael. Crëwyd byrddau gwybodaeth gan aelodau’r WYFSD, gyda phytiau o ffeithiau am fwyd, pecynnu bwyd, gwastraff a milltiroedd bwyd. Cawsom ffermwr organig o ardal Bangor ar ein stondin gyda ‘chydig o’i gynnyrch, a rhoddodd lysiau i ni ar gyfer profi bwydydd.

Profi bwydydd lleol vs. tramor: Moron, tomatos bach, afalau a mêl. Gallwn dyfu’r holl bethau hyn yng Ngwynedd. Serch hynny, gallwn fynd i’r siop a phrynu rhai o bedwar ban byd, gyda miloedd o filltiroedd i’w henwau. Aethom ati i ddarganfod os oedd ymwelwyr Gwledd Conwy yn meddwl fod prynu bwydydd o bell werth y carbon. Drwy ddefnyddio system brosesu data arloesol (papur a ffelt-pen) cawsom ddarlun o farn pobl ifanc, oedolion a phlant rhwng 2-99 mlwydd oed yn cymryd yr her.

Cylchred Ffrwythau (The Fruit Cycle!) Llwyddiant ysgubol oedd y peiriant smŵddi ar gefn beic, gyda’r cyhoedd yn heidio i gael tro ar wneud eu smŵddi gyda chynnyrch tymhorol, Prydeinig a phedalu i droi’r blendar a chael mwynhau allbwn eu gwaith caled!

Pyrsiau a waledi wedi eu hailgylchu: Daeth gwirfoddolwyr newydd o goleg Llandrillo i helpu gyda gweithgareddau, a mwynhau dysgu’r cyhoedd i wneud pyrsiau a waledi allan o hen focys sudd ffrwythau. Roedd staff WYFSD wedi cynorthwyo’r aelodau i ddod o hyd i nifer o hen focsys sudd drwy Freecycle a Facebook, wedi eu glanhau a’u paratoi ar gyfer gwneud pyrsiau.

Mae WYFSD a Gwerin y Coed yn ddiolchgar i’r Co-operative am gefnogi’r prosiect hynod lwyddiannus hwn.


1 comment

  1. Deb Wozencraft says:

    Hi Robin

    I have recently taken up the post of Co-operative & membership officer with the Co-operative.
    I understand that Dyfodol (formerly known as WYFSD) has recently worked closely with colleagues from the Co-op (bike ride & Conwy feast)

    You may remember me from CPRW when we were delivering Youth Conferences,.We’re currently formulating our Area Action Plans and would be keen to talk to you about whether the Co-op could work with and support the work you’re doing in 2013.

    It would be great to hear from you.
    best wishes

    Deb

Leave a Reply

Your email address will not be published.

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>