Cefndir:
Mae Dyfodol wedi sicrhau dros £28,000 gan GwirVol i ariannu’r cynllun yma (un o ddim ond dau brosiect rhyngwladol iddynt gefnogi). Roedd Isabel wedi cyfarfod â Chimgee, merch o Fongolia yng nghynhadledd newid hinsawdd Copenhagen yn 2009. Roedd y gynhadledd wedi ysgogi Chimgee i greu mudiad er mwyn i bobl ifanc Mongolia gweithredu i gwtogi newid hinsawdd. Mae hi wedi dechrau mudiad dan yr enw “Mongolian Youth on Climate Change” – mae 27 o bobl ifanc yn cyfarfod yn rheolaidd, ac yn derbyn cymorth gan gorff an-llywodraethol bychan ym Mongolia. Maent yn bwriadu gyrru grŵp bach i gynhadledd COP nesaf yr UNFCCC.
Y grŵp o Gymru:
Byddem yn creu grŵp eang o 25 o bobl ifanc bydd yn cymryd rhan yn y cynllun – o’r rhein, bydd 8 yn cael teithio i Fongolia gyda 2 o weithwyr. Bydd y grŵp yn dod yn bennaf o ardaloedd Abertawe, Aberystwyth a Blaenau Ffestiniog rhwng 16 ac 18 oed, ond gall unrhywun rhwng 16 a 25 o Gymru cymryd rhan. O’r 8 sy’n cael teithio, bydd 4 yn bobl ifanc gyda phrofiad o weithredu i gwtogi newid hinsawdd ac addysgu eu cyfoedion gyda Dyfodol, tra bydd y 4 arall nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET). O fewn y grŵp, bydd pobl ifanc yn gweithio mewn parau
Ar drên?!
Rydym yn credu bod hedfan yn cael effaith hynod ddinistriol ar yr amgylchedd, ac yn sicr ni fyddai’n addas hedfan fel rhan o brosiect sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o’r hyn allem ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd. Bydd y bobl ifanc yn teithio i Fongolia ar drenau – yn arbennig felly ar reilffordd y Trans-Siberian drwy Ffederasiwn Rwsia. Er bydd y daith yn un hir, rydym am wneud yn siwr bod pawb yn gweithio ar y daith!








