Mae Dyfodol yn mynd ar ein taith feicio ym mis Gorffennaf. Mae’r Daith Garbon yn ei phedwaredd flwyddyn, ac mae croeso bobl ifanc a chefnogwyr o bob rhan o Gymru. Bydd y daith eleni yn dal i galw am well ddarpariaeth ar gyfer beicwyr yng Nghymru: gallwch weld y deiseb yma. Mae’r daith hon wedi profi ei llwyddiant (ac mae cefnogaeth y Co-operative yn amlygu hyn), ac mae’n gyfle gwych i bobl ifanc.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd:
- mae’n andros o hwyl, ac yn grêt i gadw’n heini!
- rydym eisiau gallu defnyddio’r trên a’r bws gyda’n beics
- rydym eisiau mwy o lonydd beic yn ein trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig sy’n ddiogel a hawdd i’w defnyddio
- rydym am ddweud wrth wenidogion Cynulliad Cymru y gallai – ac y dylai – trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru fod llawer iawn gwell.
- rydym yn casglu nawdd ar gyfer Prosiect Mongolia eleni hefyd!
Beth fydd yn digwydd ar y daith?
Byddwn yn cwrdd nos Wener yr 8fed o Orffennaf yng Nghorris, i gael ‘chydig o hyfforddiant trwsio a chynnal beics ac i ddod i adnabod ein gilydd, ac yn cychwyn oddi yno ar fore’r 9fed ac yn beicio i Lanidloes, Erwyd, Aberhonddu, Treharris a Bae Caerdydd fesul diwrnod.
Byddwn yn cyrraedd Caerdydd tua chanol dydd ac yn cwrdd â gwenidogion y llywodraeth i drafod ein siwrne a phwysigrwydd ein neges. Wedyn adre ar y bws a’r trên i orffwys!


