Mae Dyfodol yn codi arian ar gyfer taith i Fongolia. Eisoes, mae criw o feicwyr ifanc dewr wedi mentro o Gorris i Gaerdydd, ac mae fwy o ddigwyddiadau ar y gweill. Bydd cyfraniadau yn mynd tuag at gostau teithio grŵp o bobl ifanc bydd yn cefnogi grŵp newydd sy’n ymgyrchu dros Newid Hinsawdd ym Mongolia. Sut allwch chi gyfrannu i’r achos felly?
- trosglwyddo’n uniongyrchol, i’n cyfri 08-92-99 65172232
- postio siec atom ni
- talu efo cerdyn drwy PayPal (bydd ffi) gan bwyso yma
- gydag arian parod os byddech chi digon ffodus i weld un o’r criw!
Diolch pob un am eich cefnogaeth hael!